Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y FENYW FACH A'R BEIBL MAWR

(Mae y gân hon yn un a gerir gennyf fi tra byddaf byw, am fy mod wedi digwydd ei chyfansoddi rhwng 9 a 10 o'r gloch, boreu Ebrill y 3ydd, 1859. Boreu trannoeth derbyniais lythyr ymylddu o Gymru, yn dwyn imi y newydd fod fy anwyl dad wedi cau ei lygaid ar y byd hwn, ar y dydd a'r awr grybwylledig.—J. C. H.)

Disgynnai 'r gwlaw, a gwynt y nos
A ruai yn y llwyn;
Pan oedd genethig dlawd, ddifam,
Yn dal ei channwyll frwyn;
Wrth wely ei chystuddiol dad,
A'i gliniau ar y llawr,
Gan dynnu 'r wylo iddi' hun,
A darllen y Beibl mawr.

Disgynnai 'r gwlaw a gwynt y nos
Gwynfanai am y dydd,
A llosgi 'r oedd y gannwyll frwyn
Uwchben y welw rudd;
A gwylio 'r oedd y fenyw fach
Ei thad o awr i awr,
Gan dorri mewn gweddïau taer,
A darllen y Beibl mawr.

Disgynnai 'r gwlaw, a gwynt y nos
Dramwyai drumiau 'r wlad,
A chwsg a ddaeth i esmwythâu
Ei chystuddiedig dad;
Ond pa fath gwsg, nis gwyddai hi,
Nes dwedai'r oleu wawr,
Ei fod ef wedi mynd i'r nef,
Yn sŵn yr hen Feibl mawr.