Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

BUGEILIO 'R GWENITH GWYN

Alaw,—Bugeilio 'r gwenith gwyn

Eisteddai merch ar gamfa'r cae,
A'i phen gan flodau 'n dryfrith,
I gadw 'r adar bach ffwrdd
Rhag disgyn ar y gwenith.
Rho'i ganiatâd i'r deryn to,
A'r asgell fraith gael disgyn;
Rhag ofn ei fod yn eos fach,
A dyna deimlad plentyn.

Pan welot tithau eneth wan,
Yn gofyn am dy gymorth:
Wrth gil y drws, a glywi di,
Mo ymbil chwaer am ymborth?
Os wyt am fendith ar dy faes,
Gogwydda glust i'w gweddi;
Yr oedd yr haul, a'r gwlith, a'r gwlaw,
Yn meddwl am roi iddi.

Os wyt am fedi gwenith gwyn,
Gofala beth a heui;
A wyt ti'n hau y dyddiau hyn
Yr hyn ddymunet fedi?
Tra gwelot wlith a gwlaw y nen,
A'r heulwen yn haelionus;
Wel dos i hau ar dir y tlawd,
A chofia'th frawd anghenus.