Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y MARCH A'R GWDDW BRITH

Alaw,—Y Gadlys

Caradog eilw 'i ddeiliaid,
Ag udgorn ar ei fant;
Fe ruthrodd y Siluriaid,
Cwympasant yn y pant.
Enciliodd arwyr enwog,
Ond ar y march a'r gwddw brith
Fe ddaw 'r frenhines deg i'w plith
I edrych am Garadog.

Mae cynnwrf yn y ceunant,
Ar derfyn dydd y gad;
A dynion dewr orweddant,
I farw tros eu gwlad.
Yr afon foddodd fyddin,
Ond ar y march a'r gwddw brith,
Fe ddaw'r frenhines deg i'w plith,
I edrych am y brenin.

Fe welodd y Rhufeiniaid
Y march a'r gwddw brith;
Ond gwelodd y Brythoniaid
Frenhines yn eu plith.
Mae 'r corn yn ail-udganu,
Brythoniaid yn eu holau drônt,
Rhufeiniaid yn eu holau ffont,
O flaen cleddyfau Cymru.