Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

SERCH HUDOL.

Alaw,—Serch Hudol

Serch Hudol swyn,
Sy'n llanw 'r llwyn,
Pan fo myrdd o adar mwyn,
Yn canu yn y coed.
Mae anian oll yn canu 'nghyd,
'D oes dim yn fyddar nac yn fud,
Mae mwy o fiwsig yn y byd
Na thybiodd dyn erioed.
Corau 'r Wynfa wen,
A ganant byth heb ddod i ben,
Maer delyn aur gan deulu 'r nen,
Yng ngwyddfod Duw ei hun.
Mae cân yn hedeg ar ei hynt,
Yn sŵn y môr a llais y gwynt,
Bu sêr y bore 'n canu gynt,
Paham na chana dyn?

Serch hudol yw,
Pob peth sy'n byw,
Yn y nef a daear Duw;
O'r haul sy'n llosgi fry—
I'r pryfyn tân yr hwn a roed,
I rodio 'r clawdd a gwraidd y coed,
I oleu ar y llwybyr troed
Sy'n arwain i dy dŷ.
Hardd yw llun a lliw,
Pob peth a ddaeth o ddwylaw Duw,
I ble 'r a llygad dyn nad yw,
Yng ngŵydd y tlws a'r cain?
Prydferthwch sydd yn llanw 'r nef,
A phob creadur greodd Ef,
O'r eryr ar ei aden gref,
I'r dryw sydd yn y drain.