Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gwirwyd y dudalen hon

DAFYDD Y GARREG WEN

Tyddyn yw y Garreg Wen, ger Porthmadog. Yno yn y flwydd 1720 y ganwyd Dafydd, i'r hwn y priodolir cyfansoddiaeth y dôn sydd ar ei enw. Dywedir hefyd, ond ar ba sail nis gwyddom, mai efe ydyw awdwr Codiad yr Hedydd, Difyrrwch Gwyr Cricieth, ac alawon eraill. Y mae y dôn yn un o'r rhai prydferthaf sydd gennym, ac yn nodedig o alarus a dwys. Bu y cerddor gobeithiol hwn farw yn 1749, yn 29 oed, a chladdwyd ef ym mynwent Ynys Cynhaiarn, lle mae cofadail i'w goffadwriaeth, a llun ei delyn yn gerfiedig arni ynghyd â'r geiriau,-"Bedd David Owen, neu Dafydd y Garreg Wen."

'R oedd Dafydd yn marw, pan safem yn fud
I wylio datodiad rhwng bywyd a byd;
"Ffarwel i ti 'mhriod, fy Ngwen," ebai ef,
"Fe ddaeth y gwahanu, cawn gwrdd yn y nef."

Fe gododd ei ddwylaw, ac anadl ddaeth
I chwyddo 'r tro olaf trwy 'i fynwes oer, gaeth;
"Hyd yma 'r adduned, anwylyd, ond moes
Im' gyffwrdd fy nhelyn yn niwedd fy oes."

Estynwyd y delyn, yr hon yn ddi-oed
Ollyngodd alawon na chlywsid erioed;
'R oedd pob tant yn canu 'i ffarweliad ei hun,
A Dafydd yn marw wrth gyffwrdd pob un.

"O! cleddwch fi gartref yn hen Ynys Fôn,
Yn llwch y Derwyddon, a hon fyddo 'r dôn,
Y dydd y'm gosodir fi'n isel fy mhen,"—
A'i fysedd chwareuant yr "Hen Garreg Wen."

'R oedd Dafydd yn marw, pan safem yn fud
I wylio datodiad rhwng bywyd a byd;
Yn sŵn yr hen delyn gogwyddodd ei ben,
Ac angau rodd fywyd i'r "Hen Garreg Wen."