Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

TORIAD Y DYDD

Alaw,—Toriad y Dydd

Fe welid cant o honom
Yng ngoleu'r lleuad brudd,
Yn dringo fyny 'r Wyddfa fawr
I weled Toriad Dydd.
Edrychem ar y nefoedd,
Wrth fynd o fryn i fryn;
Edrychem ar y llynnoedd dŵr,
A phwysem ar ein ffyn.
A gwelem y Saith Seren
Oedd yn y gogledd draw,
Yn gwenu ar Saith Seren wen
Oedd yn y llyn gerllaw.
Ond nid oedd amser sefyll,
Nid oedd ond hanner awr,
Na byddai Toriad Dydd yn dod
Ar ben y Wyddfa fawr.

O'r diwedd cyrhaeddasom
At ffynnon ger ei phen,
Gan ddiolch am gael gwin y graig
Mor agos at y nen.
Dringasom ris i fyny,
A threm fawreddus gaed,—
Yr holl ddwyreiniol fyd yn goch,
Yn fflamio wrth ein traed;
Ataliodd pawb ei anadl,
A phlethodd pawb ei law,
Wrth weld y goelcerth goch yn dod,
A'r nos yn treiglo draw.
Galwasom am y delyn,
Ac yng ngoleuni'r wawr,
Canasom dôn ar "Doriad Dydd"
Ar ben y Wyddfa fawr.