Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

AR HYD Y NOS

Alaw,—Ar hyd y Nos

Holl amrantau'r sêr ddywedant,
Ar hyd y nos,
Dyma'r ffordd i fro gogoniant,
Ar hyd y nos.
Goleu arall yw tywyllwch,
I arddangos gwir brydferthwch
Teulu'r nefoedd mewn tawelwch,
Ar hyd y nos.

O mor siriol gwena seren
Ar hyd y nos;
I oleuo 'i chwaer-ddaearen
Ar hyd y nos.
Nos yw henaint pan ddaw cystudd,
Ond i harddu dyn a'i hwyrddydd,
Rhown ein goleu gwan i'n gilydd
Ar hyd y nos.

MORFA RHUDDLAN

Alaw,—Morfa Rhuddlan

Gwgodd y nefoedd ar achos y cyfion,
Trechodd Caethiwed fyddinoedd y Rhydd;
Methodd gweddïau fel methodd breuddwydion,
Cleddyf y gelyn a gariodd y dydd;
Cuddied y Morfa tan eira tragwyddol,
Rhewed yr eigion am byth tros y fan;
Arglwydd trugarog, O! tyred i ganol
Achos y cyfiawn a chartref y gwan.

Brenin y gelyn fydd pen ein gwladwriaeth,
Lleiddiad Caradog a gymer ei le;
Cwymped y delyn ar gwympiad Caradog,
Syrthied i'r ddaear fel syrthiodd efe.
Eto, edrychaf ar draeth y gyflafan,
Wadwyd mo Ryddid, a chablwyd mo'r Iôr;
Gwell ydoedd marw ar Hen Forfa Rhuddlan,
Gwell ydoedd suddo i Ryddid y môr.