Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ymwêl gyda 'm plentyn, a dwed fod ei dad,
Yn edrych yn fynych dros wyneb y lli.
O! chwydder dy hwyliau gan chwaon o'th wlad,
A thyner bo'r awel lle bynnag'r ei di.
Dos tros y don,
Cei henffych well,
Dwed yno 'n llon
Wrth fachgen sydd bell,
Fod Gwalia flodeuog yn moli'r un Duw,
Ac iaith ei gyndadau yn iach ac yn fyw.

Fod ganddo chwaer ar ddelw 'i fam,
Sydd yn parhau i'w garu ef,
Sy 'n llawenhau wrth feddwl am
Gael eto gwrdd yn nef y nef.
Fod ei wlad heb weld ei hail
Am glysni teg a glesni dail;
A dal wrth ben
Ei Gymru wen
Mae awel nef a melyn haul.
Ymwêl gyda 'm plentyn, a dwed fod ei dad,
Yn edrych yn fynych dros wyneb y lli.
O! chwydder dy hwyliau gan chwaon o'th wlad
A thyner bo'r awel lle bynnag'r ei di.
Dos tros y don,
Cei henffych well,
Dwed yno 'n llon
Wrth fachgen sydd bell,
Fod Gwalia flodeuog yn moli'r un Duw,
Ac iaith ei gyndadau yn iach ac yn fyw.