Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CADLEF MORGANNWG

O "Syr Rhys ap Tomos."

Clywch, clywch, hen gadlef Morgannwg,
Wele Rys a'i feirch yn y golwg,
I'w atal ymlaen
'Dyw mynydd ond maen
Adewir mewn llwch ar ei ol.
Corn y gâd ydyw miwsig yr awel,
Heddyw gwledd gydag Arthur yw rhyfel,
Yn galw ar fynydd a dôl.
Wel sefwch yn hyf gyda 'ch dreigiau,
Ac edrychwch i lawr megis creigiau,
Gawrfloeddio mae Rhyddid i ganol y gâd
I godi'r hen wlad yn ei hol.

Mae breichiau myrdd yn caledu,
A ffroenau y meirch yn lledu;
A berwi mae gwaed,
Gwŷr meirch a gwŷr traed,
I godi'r hen wlad yn ei hol.
Fry, fry, cyhwfan mae'r faner,
Trywanu mae'r cledd at ei hanner;
Yn uwch eto 'n uwch gyda'r dreigiau,
Ac edrychwch i lawr megis creigiau,
Gawrfloeddio mae Rhyddid i ganol y gâd,
I godi'r hen wlad yn ei hol!