Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mae 'r bad yn nofio ar yr afon,
A nos o fwyniant ydyw hon;
Mae 'r ser a'r lleuad yn dryloewon,
A'r côr yn canu ar y dôn.
Wel ar y Fenai, ar y Fenai heno,
Y llawen ganwn, rhwyfwn gyda 'r dôn,—
A dyma 'r canu, dyma 'r nofio,
Dyma 'r rhwyfo gyda 'r dôn;
Mae aelwyd lawen inni yno,
O mwyn yw myned tua Môn.

HUN GWENLLIAN.

Alaw,—Hun Gwenllian

Hun Gwenllian, ferch y brenin,
Gwyn dy fyd ti tan y gŵys;
Cwsg Wenllian, dyner blentyn,
Yn y ddaear ddistaw ddwys.
Cledd y Norman wnaeth gyflafan,
Nid oes gennyt fam yn awr;
Hun Gwenllian, hun Gwenllian,
Cwsg ymhell o'r cystudd mawr.

Hun Gwenllian, i'th fendithio
Duw'th gymerodd yn ei gôl;
Mae'th frawd hynaf wedi cwympo,
Ni ddaw'r iengaf byth yn ol.
Yn dy gartref trig y Norman,
Seren Cymru aeth i lawr;
Hun Gwenllian, hun Gwenllian,
Cwsg ymhell o'r cystudd mawr.