Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

LLWYBR Y PERERIN

Mi dybiais fod ffordd y pererin i'r nef
Yn un lefn ac hardd-esmwyth trwy ddyffryn glâs gain;
Dangosaist Di'r ffordd—ac un gul dywell oedd,
Garegog a blin trwy fieri a drain.
Mae temlau a phlasau heb ofid na phoen,
Ond y maent tros gagendor o dir y rhai byw;
Mae afonydd o hedd, ond pa le maent i'w cael,—
Yn y nef yno maent, fry yn nefoedd fy Nuw.

BEDD LLYWELYN

Alaw,—Goslef Llywelyn

I feddrod Llywelyn mae'r tir wedi suddo,
Ac arno'r gwlawogydd arosant yn llyn;
Mae'r lloer wrth ymgodi, a'r haul wrth fachludo,
Yn edrych gan wrido ar ysgwydd y bryn.
Fy Nghymru, fy Ngwlad, a wyddost ti hyn!
Pa le mae Gwladgarwch yn dangos ei gwedd?
Mae dagrau y cwmwl yn gwybod am dano,
A deryn y mynydd yn nabod y bedd.

Ar ddamwain mae'r Cymro yn dyfod i weled,
Lle cwympodd yr olaf fu ddewr ar ei ran;
Yr awel a gwyna a'r ddaear a ddywed,
Fod calon hen Walia yn curo 'n lled wan;
Dieithriaid a ddônt i weled y fan
Y gorffwys Llywelyn wrth ochor ei gledd;
Wel diolch am ddeigryn o'r nefoedd i waered,
Ac am y glaswelltyn yn ymyl y bedd.