Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MYFI SY'N MAGU'r BABAN

(Cân mamaeth Gymreig wrth fagu Tywysog Seisnig cyntaf
Cymru o "Cantata Tywysog Cymru.")

Myfi sy'n magu'r baban,
Myfi sy'n siglo'r cryd,
Myfi sy'n hwian, hwian,
Ac yn hwian hwi o hyd.
Bu'n crio bore heddyw,
O hanner y nos tan dri;
Ond fi sy'n colli'm cysgu,
Mae'r gofal i gyd arnaf fi.

Myfi sy'n magu'r plentyn,
Bob bore, prydnawn a hwyr;
Y drafferth sydd ei ganlyn,
Fy hunan yn unig ŵyr.
Nis gŵyr ef air o Saesneg,
Nac un gair o'n hen hiaith ni,—
I ddysgu'r twysog bychan,
Mae'r gofal i gyd arnaf fi.

Ond os caf fi ei fagu,
I fyned yn llencyn iach;
Caiff iaith brenhinoedd Cymru
Fod rhwng ei ddwy wefus fach.
A phan ddaw ef yn frenin,
Os na wnaiff fy nghofio fi,
O! cofied wlad y cenin,
Y wlad sydd mor anwyl i ini.