Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

TUA THEGID DEWCH

Chwi feirdd y trefydd mawr
Sy'n byw ar fwg a llwch;
Dowch gyda fi yn awr,
Dowch neidiwch i fy nghwch.
Fyny'r hen Ddyfrdwy nofiwn,
A ffarwel i'r mŵg sydd ar ein hol,
Rhwyfwn ymlaen, a chanwn
Dan y coed a'r pynt, o ddol i ddol.
Ger tref y Bala
Mae lle pysgota,
Ar loew loew lyn;
Awn ymlaen tua'r dyfroedd hyn,
Moriwn yng nghanol Meirion;
Tynnwn rwyf gyda rhwyd yn hoew,
Ar groew loew lyn.

Draw, draw yng nghanol gwlad,
Deg, deg fel Eden ardd;
Ceir yno adfywhad
I'r cerddor ac i'r bardd.
Bywyd sydd yn yr awel
Fel y dêl o'r coed, o'r allt, a'r rhiw,
Bywyd y Cymry'stalwm,
Ysbryd cân a mawl sydd yno'n byw.
Ger tref y Bala, &c.

Chwi wŷr y trefydd mawr,
Gwyn, gwyn eich gruddiau chwi,
O dowch am hanner awr
Mewn cwch ar hyd y lli;
Rhwyfwn i fyny'r afon,##
Gyda gwrid ac iechyd dychwel gewch;
Mae môr rhwng bryniau Meirion,
Tua Thegid dewch, i Degid dewch!
Ger tref y Bala, &c.