Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/6

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

priododd un o rianod gwlad Ceiriog. Yn 1862 cyhoeddwyd ei "Oriau'r Bore," lle mae ei awen ar ei thlysaf ac ar ei grymusaf. O hynny hyd ddiwedd ei oes, daliodd i ganu. Y mae dros chwe chant o'i ganeuon wedi dod a llawenydd i galon miloedd o Gymry, ac ambell un ddeigryn i lawer llygad.

Yn 1865, daeth Ceiriog yn orsaf feistr i Lanidloes. Aeth oddiyno i Dowyn yn 1870, oddiyno i Drefeglwys yn 1871, ac oddiyno i Gaersws yn yr un flwyddyn. Yno y bu farw, Ebrill 23ain, 1887. Treuliodd ei febyd, felly, yn Nyffryn Ceiriog, rhan ganol ei oes ym Manceinion, a'r rhan olaf ym mlaen Dyffryn yr Hafren.

Trwy'r blynyddoedd yr oedd tri pheth yn agos iawn at ei galon,-llenyddiaeth Cymru, yr Eisteddfod, ac addysg Cymru. Yr oedd yn hoff o Ddafydd ab Gwilym; yr oedd ganddo gariad greddfol at y naturiol a'r cain. Yr oedd ei fryd ar ddiwygio'r Eisteddfod, ac ar ei gwneyd yn allu cenedlaethol. Hiraethai am ddadblygiad cyfundrefn addysg, ac ymfalchïai yng Ngholeg Prifysgol Cymru. Un o wir feibion y mynyddoedd oedd.


Wrth drefnu'r gyfrol hon, ceisiais ddewis darnau perffeithiaf Ceiriog, gan adael allan bopeth lle na welir y bardd ar ei oreu. Y canlyniad ydyw hyn,—dewiswn, er fy ngwaethaf, y dwys a'r tyner yn ei awen, ac nid y digrif. I'r dwys y rhoddodd Ceiriog fwyaf o'i enaid, ac ymarllwysiad teimlad ei oriau pruddaf yw ei ganeuon goreu.

Dymunwn ddiolch yn gynnes i'r Mri. Hughes am gyhoeddi y gyfrol hon imi. Y mae ganddynt hwy hawl ar y rhan fwyaf o lawer o'r caneuon sydd yn y