Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y BABAN DIWRNOD OED

'R oedd swn magnelau yn y graig,
A swn tabyrddau'n curo,
A chlywid trwst ofnadwy traed
Y Ffrancod wedi glanio,
A'r waedd i'r frwydr chwyddai'n uwch,
Gan alw'r dewr i daro;
Terfysgwyd y glannau
Gan rym y taranau
A ruent ar lan y môr.

I dai'r tylodion rhuthrai gwŷr,
Gan ladd y diamddiffyn,
A flamiai palas hardd gerllaw
Gan dân o longau'r gelyn;
Fe ffoai mamau gyda'u plant,
A chodai'r claf mewn dychryn;
Ond'r oedd yno ddynes,
A babi'n ei mynwes,
Rhy waelaidd a gwan i ffoi.

Ei gŵr erfyniai wrth ei phen,—
"O cwyd! O cwyd! fy Eurfron!
Mae'r march a'r cerbyd wrth y drws,
Tyrd iddo ar dy union!
Olwynwn ymaith fel y gwynt,—
Anwylyd, clyw'r ergydion!
O Dduw, a ddaeth diwedd
Fy mab, fy etifedd?
Fy mhlentyn a anwyd ddoe!"

Atebai'r wraig yn llesg ei llais,—
"Fy mhriod, clyw fy ngweddi,
O gad fi ar y gwely hwn,
Ond gad y baban imi;