Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y FYNWENT YN Y COED

Yn araf y cerddasom,
I'r fynwent yn y coed;
Ac yno y claddasom
Chwaer fechan bedair oed;
Gan bedair o'i chyfeillion iach,
Mewn dillad gwynion claer,
Yng ngwŷdd ei thad a'i brodyr bach,
I huno rhoed ein chwaer.

Ar waelod bedd y fechan,
Cyn gollwng corff ein chwaer;
Canfyddem arch wen newydd
Fel daeth o ddwylaw'r saer.
Ein hanwyl fam oedd yno'n fud,
Heb fawr o feddwl am
I'r plentyn olaf yn y cryd
Ddod gyntaf at ei fam.

Pan gaffom ninnau'n gollwng,
Mae gennym weddi daer,—
O boed ein llwch yn deilwng
O lwch ein mam a'n chwaer.
Fe awn yn fynych dros y cae
I'r fynwent yn y coed;
Y fan mae mam, a'r fan y mae
Chwaer fechan bedair oed.