Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CLADDASOM DI, ELEN

Claddasom di, Elen, ac wrth roi dy ben
I orwedd lle fory down ni,
Dihangodd ochenaid i fyny i'r nen,
A deigryn i lawr atat ti.

Claddasom di, Elen, a chanwyd dy fedd,
Pe hefyd bâi bosibl ei gau;
Mae llygad yn edrych o hyd ar dy wedd,
Ac ni fedr angau nacau.

Cyflawnwyd dy freuddwyd, ond ni ddarfu'r gro,
Ar gauad yr arch dy ddeffroi;
Ond udgorn a gân, ac o'r dywell fro,
Yn wen a dihalog y doi.

Ai "tywell" ddywedasom? Nid tywyll i ti
Fu pyrth tragwyddoldeb a hedd,
Dy lamp oedd wenoleu;—nid ti, ond nyni,
Sy'n dwedyd mai du ydyw'r bedd.

I ninnau mae breuddwyd i ddyfod i ben,—
Canfyddem di mhell oddi draw
Ar furiau Caersalem, a'th wisg yn glaer-wen,
Yn gwenu gan estyn dy law,—

I'n derbyn yn ninas dragwyddol dy Dduw;
A thybiem ein bod wedi dod,
I gyffwrdd â'th law, ond deffroisom yn fyw,
Ymhell oddiwrth gyrraedd y nod.

Claddasom di, Elen, ond rhyngot a ni,
Nis erys gagendor yn hir;
O fewn y bedd yna lle rhoisom dydi,
Claddasom ein hunain yn wir.

Na, na, nis ffarweliwn, mae'r Iesu yn fyw,
I'n dwyn ato'i hun a thydi;
Mae'r ffordd yn agored o'r ddaear at Dduw,
A'r nef mewn addewid i ni.