Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Arfau'n tadyrddu a swn oedd yn dilyn,
Aem ninnau i'r porthladd i'w gweled yn cychwyn,
Ond cadwem yn ymyl ein cyfaill ohyd.
Pan welai'r fath bryder, ac ofn yn ein calon,
Gorchfygwyd ei lygad gan ddagrau tryloewon,
Ond ffarwel obeithion oleuodd ei bryd.

Fel gwennol yn dilyn y llong tros yr eigion,
Felly'r dychymyg ddilynodd ein gwron,
Nes glaniwyd yn llawen heb arf o nacâd—
Gwersyllwyd am ennyd, ond ber fu'r orffwysfa,
Nes sangwyd ar fryniau bythgofiol yi Alma,
Uwchben amchwareufa ddychrynllyd y gâd.

Edrych gyferbyn ar lengoedd y gelyn
Fel dirif locustiaid yn gwneuthur y dyffryn
Mal affwys echryslon y fall—
A mil o fagnelau yn agor eu gyddfau,
I chwythu tymestloedd ac eirias gawodau,
I gladdu holl rengoedd y llall.

Ond megis iâ llithrol
Yr Alpau tragwyddol,
Tros greigiau anhygyrch yn ceisio'r gwrthentyrch islaw:
Trwy danllyd ryferthwy
Gwneir rhuthur ofnadwy,
Trwy'r afon i'r llechwedd gerllaw.

Mae rhai yn ymestyn at ystlys y gelyn,
A'r lleill fel taranfollt yn hyrddio i'w erbyn,
I loches y fagnel a'r tân;
Ond llamwyd i'r gloddfa, gorchfygwyd yn Alma,
A'r meirwon led-glywsant y gân.