Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pwy welais yn arwain hen gatrawd fy ngwlad,
Yn flaenaf, yn nesaf i'r gelyn?
Pwy gwympodd ar fynydd llosgfalog y gad,
Gan godi o'i waed i oresgyn?

Pwy oedd yr un hwnnw a ddaliodd fel tŵr,
Yr ufel raiadrau diri?
Tydi, tydi gyfaill, tydi oedd y gŵr,
A milwr fel hyn oeddyt ti.

Mynyddoedd yr Alma ddatganant dy werth,
Dy ddewredd, a'th fedr milwrol;
Ond draw yn Scutari datguddiwyd dy nerth,
Fel arwr ar faes Cristionogol.

Ar wefus y milwr dolurus a gwan,
Y gwasget rawnsypiau tosturi;
A llawer ochenaid daer ddwys ar ei ran,
Gyrhaeddodd y nef yn dy weddi.

Esmwythaist y clwyfus â balm oddi fry,
Pan ballai daiarol feddygaeth;
A glyn cysgod angau oleuwyd i lu
Pan ddaliet ti lamp Iachawdwriaeth.

Er cymaint y caret dangnefedd dy wlad,
Ac aelwyd dy riaint yn drigfan;
Rhy bur dy gydwybod i dderbyn mwynhad
A throi oddiwrth erchwyn y truan.

Pan ddaw y fath adeg—pan na fydd y byd
Yn agor cyfrolau rhyfeloedd,
Coffeir y gwir filwr, a'i enw o hyd,
Fydd beraidd am fil o flynyddoedd.

Tra dyn ar y ddaear ac hefyd tra bo
Y nefoedd yn edrych ar rinwedd;
Bydd glan y Mynorfor yn anwyl mewn co
Lle rhoddwyd gwir filwr i orwedd.