Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Weithiau tan y creigiau certh,
Yng nghanol y mynyddoedd,
Dim i'w weld ond bryniau serth,
A thyner lesni'r nefoedd;

Yna dringo pen y bryn,
Hyd risiau craig ddaneddog,
Gweld y nant, y cwm, a'r glyn,
Y ddôl, y gors, a'r fawnog;
Edrych ar y ceunant du,
Fel bedd ar draws y bryniau;
Bedd, yn wir, medd hanes, fu
I lawer un o'n tadau.

Llawer craig fygythiol sydd
Yn gwgu ar ein bywyd;
Ond mae arnynt ddwylaw cudd,
Ac nid oes maen yn syflyd;
Clywir llais y dymhestl gref,
A chwiban y corwyntoedd,
Rhua croch daranau'r nef,
Ond huno wna'r mynyddoedd.

Fel yr hen fynyddoedd clyd
Y'm ninnau ym mysg dynion;
Ysed tân ddinasoedd byd,
A chwymped seddau'r mawrion,
Llwybro gyda'n defaid wnawn,
A thrin ein huchel diroedd;
Hûn o bur dawelwch gawn
Ym mynwes y mynyddoedd.