Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y GARREG WEN

Os pell yw telyn aur fy ngwlad
O'm dwylaw musgrell i;
Os unig wyf o dŷ fy nhad,
Lle gynt chwareuid hi:
Mae'r iaith er hynny gyda swyn,
Fel ysbrydoliaeth yn fy nwyn,
I ganu cerdd, os nad yn fwyn
I'r byd—mae'n fwyn i mi.

Mae nant yn rhedeg ar ei hynt
I ardd fy nghartref i,
Lle cododd un o'm teidiau gynt
Ddisgynfa iddi hi.
Mae helyg melyn uwch y fan,
Lle syrthia tros y dibyn ban,
A choed afalau ar y lan,
Yn edrych ar y lli.

O dan ddisgynfa'r dŵr mae llyn,
A throsto bont o bren;
A charreg fawr, fel marmor gwyn,
Gynhalia'r bont uwch ben.
Fy mebyd dreuliais uwch y lli,
Yn eistedd yno arni hi;
A mwy na brenin oeddwn i,
Pan ar fy Ngharreg Wen.

Pan ddeuai'r Gwanwyn teg ei bryd
Ar ol tymhestlog hin,
Ac adfywhau'r llysieuog fyd
Yn ei gawodydd gwin;
Yn afon fawr ai'r gornant fach;
Pysgotwn ar ei glennydd iach—
A phin blygedig oedd fy mach
Yn grog wrth edau lîn.