Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ni waeth pa ran o'r eang fyd
A grwydraf tra b'wyf byw,
Wyf wrth y Garreg Wen o hyd,
A'r nant sydd yn fy nghlyw;
A phan hysbyswyf estron ddyn,
Mai ati' hedaf yn fy hun,
Maddeua'm ffoledd am mai un
O gofion mebyd yw.

Ffurfafen bell yw mebyd oes,
Serenog fel y nen;
Ac ymysg dynion neb nid oes,
Na hoffa godi ei ben
I edrych draw i'r amser fu—
A syllaf finnau gyda'r llu—
Ac O! fy seren fore gu
Wyt ti, fy Ngharreg Wen.

Os cyraedd ail fabandod wnaf,
Cyn gollwng arna'r llen;
Os gauaf einioes byth a gaf,
A'i eira i wynnu'm pen—
Bydd angau imi'n "frenin braw,"
Nes caffwyf fynd i Walia draw,
At dŷ fy nhad, i roi fy llaw
Ar ben y Garreg Wen.

Byth, byth ni ddygir o fy ngho'
Gyfeillion mud yr ardd;
Nis clywir trystfawr swn y gro
Ar gauad arch y bardd;
A dagrau pur tros ruddiau'r nen
Fo'r oll o'r dagrau uwch fy mhen—
Os cyfaill fydd, gwnaed garnedd wen
O gerrig gwynion hardd.