Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Diffodd lampau'r nos,
Goleu'r ddaear dlos,
Rhodio tros y bryniau mawr,
Gosod cymyl claer
Mewn ymylon aur,
Dyna waith y wylaidd wawr.

Dowch i'r mynydd gyda'r hwyrddydd,
Pan aiff haul i'w fachlud awr;
Chwi gewch weled brenin Gwynddydd
Yn ei waed yn cwympo i lawr.
Duo'n ddyfnach bydd
Mynwent laith y dydd,
A daw nifwl ar y môr,
Lleuad gwyd ei phen,
Hwyrddydd rodia'r nen
I ail oleu lampau'r Iôr.

V

Mi genais gerdd i'r Arad Goch,
A cherdd ar Ddowch i'r Mynydd:
Ond beth be bawn i eto'n dod
I ganu cân anghelfydd
Ar alaw anwyl "Blodau'r Cwm,"
Mae pawb yn gwybod honno;
A beth pe bawn yn dewis pwnc
Y gŵyr pob dyn am dano?

O! gwyn ei fyd yr hwn nis gŵyr
Am ferch fu'n flinder iddo;
Ond wn i ddim yn sicr chwaith,
Ai gwyn ei fyd, ai peidio.
Mae'n ddigon hawdd gan ambell un
Sydd wedi cael ei ginio,
Areithio llawer wrth ryw blant
Y gallant aros hebddo.