Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
I FORFUDD[1]

Y BARDD MEWN HENAINT YN DWYN I GOF FEL Y BU GY(NT)

Y FUN alaw-lun liwlwys,
Morfudd, bryd goleuddydd glwys,
Mawr yw fy nghân am danad,
Y ferch a welir yn fad.

A mi neithiwyr, hwyr bu hyn,
Yn d' aros, liwbryd erwyn,
Yn y man lle 'i caid annerch
Rh'om gyntaf fis haf o'n serch,
Syllwn, ac edrychwyn dro,
O'm hamgylch, ac i'm hymgo',—

Cyntaf dan gel pan welais
Dy lun, a chlywed dy lais,
Yr oedd ein llwyn ar ei fwyn fanc,
Yn wiаil, ac yn ieuanc;
Ac uwch ben y fedwen fau
Bregus nid oedd y brigau,
Yn nwyfus, ac yn hafaidd,
A gwryg ieuenctyd i'w gwraidd.
Teml oedd îr, ty ami ei ddail,
Tyddyn dan gapan tew-ddail;
Tŵr gwych capan-grych pengrwn,
A chryf ei gangen, a chrwn;
Ag adar, a'u dysgeidiaeth,
Acw 'n y ffridd a'u cân ffraeth.
Mwyalchen i'n bedwen bêr
An doniai á chân dyner;
Gwyddost, i'n llwyn mwyn ym Mai
Yn firain e lefarai.
Y nos caid eos i'n dail,
Yn fywus, ag iaith fiwail;

  1. Gwaith Iolo Morganwg, gw: Dafydd ap Gwilym net Cerddi'r Apocryffa Rhif A174