Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/101

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A ninnau yn iawn annerch
Ei salm ar gynghanedd serch.
Aethus yw'r henaint weithian,
Yn dal meth ar y dail mân;
A'r cyff crin-frig yn trigaw
Dan auaf-nych a gwlych gwlaw;
Oedran sy'n gadarn arno,
A dug y llosgwynt ei do;
A mwy nid balch mwyalchen,
Ag eurwe bwnc, ar ei ben;
Nag eos ni wna gywydd
Ar ei bwys, rhy oer y bydd.
Mae cof yonof o'm hynni,
A'm serch oedd, wenferch, i ti;
A'm cerydd mawr i'm cariad,
Ac ni'th gawn yn llawn benllad.
Hir oedio'm serch a'm rhydawdd,
A byw o hyd ni bu hawdd,
Dan fy swydd lawer blwyddyn,
Gorfod bod hebod er hyn;
A maith yw'm dolur i'm iad,
A dunych bron am danad;
A heiniais i'm anhunedd,
I mi ar bâr y mae'r bedd.