Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y MABOLAETH[1]

Y BILAIN o fabolaeth,
O Dduw, pa dremhynt a ddaeth?
Bu bwl fy ngado, bu bai,
Dywaid im na'm gadawai;
Llwyr y gwnaeth draeturiaeth dro,
Fy ngadwyll cyn fy ngado;
Unwedd a thair o gairos,
Hyd yr awr, neu hed o ros,
Ac yn y man diflannu,—
Hudoliaeth fabolaeth fu.
Tra chefais, ni fernais fai,
Dyn loew fryd, dwyn ei lifrai;
Di-eiddil a da oeddwn,
A chryf, a gorwyllt, a chrwn;
Ehud, esgud, ac ysgawn,
I ben'r allt buan yr awn;
At y bel, a phob helynt,
A rhedeg fal gwaneg gwynt;
Caru morwyn addfwyn-wych,
Er nas cawn, wron-was gwych,
Amnaid â'm llygaid yn llon,
Mor ynial ar y morwynion ;
Neidio a saethu nodyn,
Nofio'n fad llygad y llyn.

Heddyw os i riw yr af,
O arferydd, hwyr fyddaf;
Dirfawr ei son, darfu'r serch,
A mwynfawr gerdd am wenferch,
Ni chyfyd ynnof cof cerdd,
O gyngyd serch ag angerdd.
Henaint a ddaw, fal hoenyn,
A'i dwyll i efryddu dyn;

  1. Amheuaeth gryf mae nid gwaith DapG ydyw, gw: Dafydd ap Gwilym net Cerddi'r Apocryffa Rhif A143