Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
Y CYWYDD DIWEDDAF.[1]

GALAR ar ol mabolaeth
Y sydd, i'm gwanu fel saeth;
Gwaefyd yw 'mywyd i mi;
Galwaf am nerth ar Geli.

Darfu'r ieuenctyd dirfawr,
O dewr fu'nydd, darfu'n awr;
Darfu'r pen a'r ymenydd,
Dial serch im dal y sydd:
Bwriwyd awen o'm genau,
Bu hir a chân i'm bywhau;
Mae Ifor, a'n cynghorawdd,
Mae Nest, oedd unwaith i'm nawdd
Mae dan wŷdd Morfudd fy myd,
Gorweddant oll mewn gweryd,
A minnau'n drwm i'm heinioes,
Dan oer lwyth, yn dwyn hir loes.
Ni chanaf gerdd, na'i chynnyg,
I goed mwy, na chwŷn na gwŷg:
Ni ddore, yng ngwŷdd eirian,
Na chog nag eos a'i chân,
Na chusan merch a serchais,
Bun wâr, na'i llafar, na'i llais.

Mae gwaew i'm pen o'm henaint,
Mwy nid serch harddferch yw'r haint;
Aeth cariad a'm llad o'm llaw,
A gofid yw ei gofiaw.
Usyn wyf, ac eisieu nerth,
Ac angau yn ogyngerth ;
Y bedd sydd imi ar bâr,
A diwedd oes, a daear,—
Crist fo'm porth, a'm cynhorthwy,
Amen, ac nid achos mwy.


  1. Gwaith Iolo Morganwg Gwaith Dafydd ap Gwilym, cerddi'r Apocryffa Rhif A72;Dafydd Johnston