Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
MIS MAI.

DUW gwyddiad mai da gweddai
Dechreuad mwyn dyfiad Mai;
Di-feth îr-gyrs a dyfai
Dyw-calan mis mwynlan Mai;
Di-grin flaen-goed a'm hoedai,
Duw mawr a roes doe y Mai.

Dillyn beirdd, ni'm rhy-dwyllai,
Da fyd im oedd dyfod Mai;
Hardd-was teg a'm anrhegai,
Hylaw wr mawr, hael yw'r Mai;
Anfones im iawn fwnai, -
Glas defyll glân mwyn-gyll Mai,
Ffloringod brig ni'm digiai,
Ffwr-de-lis, gyfoeth mis Mai.

Dihangol rhag brad i'm cadwai
Dan esgyll dail, mentyll Mai;
Llawn wyf o ddig na thrigai,
(Beth yw i mi!) byth y Mai.

Dofais ferch a'm hanerchai,
Dyn gwiw-ryw mwyn, dan gôr Mai;
Tadmaeth beirdd a'm hurddai,
Serchogion mwynion, ym Mai.

Mab bedydd Dofydd difai,
Mygr-las, mawr yw urddas Mai.

O'r nef y daeth a'm coethai
I'r byd, fy mywyd yw Mai;
Lle glas gofron, llon llatai,
Neud hir ddydd mewn irwydd Mai;
Neud ser nos, nid trwm siwrnai,
Nid heirdd gweilch, ond mwyeilch Mai.