Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Neud golas, nid ymgelai
Bronwydd a brig manwydd Mai;
Neud llon eos lle trosai,
Llafar yw mân adar Mai;
Neud esgud nwyf a'm dysgai,
Nid mawr ogoniant ond Mai.

Paun asgell-las dinas-dai,
Pa un o'r mil, penna'r Mai;
Pwy o ddail a'i hadeiliai,
Yn gyd a mis o goed Mai?

Magwyr laswyrdd a'i magai,
Mygr ir-gyll, mân defyll Mai,
Pyllawg, gorau pwy pellai
Y gauaf,—mwynaf yw'r Mai;
Dechreu haf llathr ai sathrai,
Deigr a'i mâg, di-egr y Mai.
Deil-gyll gwyrdd-risg a'm gwisgai,
Da fyd im yw dyfod Mai.

Duw doeth gadarn a farnai,
A Mair, i gynnal y Mai;
Mynnwn, pe nef a'i mynnai,
Pe deuddeg mis fo mis Mai.