- Y NIWL[1]
OED a'm rhiain addfeindeg
A wnaethwn, yn dalgrwn deg,
I fyned, wedi ymgredu,
Ymaith ; ac oferdaith fu.
Mynd yn gynnar i'w haros,
Egino niwl cyn y nos.
Tywyllodd wybr fantellau
Y ffordd, fel petawn mewn ffau.
Cuddio golwybr yr wybren,
Codi niwl cau hyd y nen.
Cyn cerdded cam o'm tramwy,
Ni welid man o'r wlad mwy,
Na gorallt fedw, na goror,
Na bronnydd, meusydd, na môr.
Och it, niwlen felen fawr,
O throit ti, na tharrit awr.
Casul o'r awyr ddu-lwyd.
Carthen aniben iawn wyd;
Mwg ellylldan o Annwn,
Abid tew ar y byd hwn;
Mal tarth uffernbarth ffyrnbell,
Mŵg y byd yn magu o bell,
Uchel dop adar gopwe,
Fel gweilgi,'n llenwi pob lle;
Tew wyd, a glud, tad y gwlaw,
Tyddyn a mam wyd iddaw;
Gwrthban draw trymwlaw tromlyd,
Gwe ddu bell a gudd y byd;