Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cnwd anhygar, diaraul,
Clwyd forlo rhyngo a'r haul;
Nos im fydd dydd difyr-glwyd,
Dydd yn nos, pand diddawn wyd.

Tew eira fry'r hyd tai'r fron,
Tad llwydrew, tidiau lladron;
Gwasarn yr eira llon Ionawr,
Goddaith o'r awyr faith fawr;
Ymlusgwr, bwriwr barrug
Ar hyd moelydd, ar grinwydd grug;
Hudol egwan yn hedeg,
Hir barthlwyth y Tylwyth Teg;
Gown i'r graig, gu awyr gron,
Cwmwl planedau ceimion;
Ager yn tynnu eigiawn,
Mor-wynt o Annwn mawr iawn;
O'm blaen ar riw hagr-liw hyll,
Obry yn dew wybren dywyll.

Fy nhroi i fan trwstanwaith
Fel uffern, i figin-wern faith,
Lle'r ydoedd yn mhob gobant
Ellyllon mingeimion gant,
Ni chawn, mewn gwern uffernol,
Dwll heb wrysg dywyll heb rol.

Ni wnaf oed, anhy ydwy,
Ar niwl maith, am anrhaith, mwy.