Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
IFOR HAEL

FOR aur ei fawrwriaeth,
Deg yw'r fau dihagr faeth;
Dewraf wyt, a gwrddaf gŵr,
Dy ddilyn dieiddilwr.

Myfi yw, ffraeth-lyw ffrwythlawn,
Maer dy dda, mawr yw dy ddawn;
Ys dewr lid ystyriol ydwyd,
Ystôr im, ys da ior wyd.
Telais it wawd tafawd hoew,
Telaist im fragawd du-loew;
Rhoist im swllt, rhyw ystum serch,
Rhoddaf it brif enw Rhydderch.
Cyfarf arf, eirf ni'th weheirdd,
Cyfaillt a mab aillt y beirdd;
Cadarn wawr cedyrn wiwryw,
Caeth y gler, cywaethog lyw.
Da oedd, a syber, dy âch,
Duw ni fedd dyn ufuddach;
Wyt i'th fardd pellgardd pwyllgall,
Llywiwr llu, fel llaw i'r llall."

O'm hiaith y rhyluniaethir
Air, nid gwael arnad y gwir;
Hyd yr ymdaith dyn eithaf,
Hyd y try hwyl hy haul haf,
Hyd yr henir y gwenith,
A hyd y gwlych hoewdeg wlith,
Hyd y mae iaith Gymraeg,
A hyd y tyf hadau teg;
Hardd Ifor, hoew-ryw ddefod,
Hir dy gledd, heuir dy glod.