Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
Y CEILIOG DU

GYDAG ieir ceir dy garu,
Y ceiliog dewr a'r clog du;
Cwrel-ael yn caroli,
Cyfliw bais fel cofl y bi;
Cyd-wr fry coed ieir y fron,
Cwbl o amod, cyw blowmon;
Castellwr, diddanwr dŷn,
Casul-wyrdd edn ceseil-wyn;
Ysgutyll yn cynnull cad,
Esgud ewybr, ysgod abad;
Ysgwl du ym mlaen osgl dâr,
Esgob-lun mewn ysgablar;
Delw eglwyswr dail gleision,
Delw'r brawd, bregethwr bron;—
Dy lifrai o'r mwrai main,
Dy lawes o dew liain;
Dwbled it o blu y don,
Dwy-ael dy fentyll duon;
Crefydd-wisg it a wisgwyd,
Crefydd serch, crefydd-was wyd;
Ni mynnit, ben ymwanwr,
Bwyd y dydd ond bedw a dŵr,
Bwyd o frig coed bedw y fron,
Bwyd ieir mewn bedw irion.

Beiddiwr aer, bydd yr awron,
Latai im at eiliw ton;
Dywed i Wen ysplenydd,
Deled i oed, deuliw dydd.