Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
GWALLT MORFUDD[1]

DOE gwelais ddyn lednais lân,
Deg o liw, dygwyl Ieuan;
Yn ddyn glaerwen ysplenydd,
Yn lloer deg, unlliw a'r dydd;
A'i chlaerwin fin chwerthinog,
A'i grudd fel rhosyn y grog:
Aml o eurlliw, mal iarlles,
Gerllaw y tal, gorlliw tes;
Ac uwch ei deurudd rhuddaur,
Dwybleth fal y dabl o aur;
O datodir, hir yw hwn,
Yr eiliad aur a welwn;
Plethiad ar yr iad wiw rydd
Ar gydyn eur-egwydydd;
Esgyll archangel melyn,
Aur we gwys ar eira gwyn;
Gweled ei gwallt fal gold gwiw,
Gwiail unllath, goel unlliw;
Banadl-lwyn uwch yr wyneb,
Bronbelau fal siopau Sieb;
Gwiw arwydd uwch deurudd dyn,
Gwiail-didau gold ydyn;
Copi clyd gwiw-bryd gobraff,
Coed o aur rhudd cyd a rhaff.

Pan ni wyr beirdd penceirdd-ryw
Pwy biau'r gwallt pybyr gwiw,—
Bid arnaf fi yn ddiwg
Arddel dyn urddol a'i dwg.

  1. Gwaith Dafydd ab Edmwnd, gw: Dafydd ap Gwilym net Cerddi'r Apocryffa Rhif A49