Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
CYSTUDD SERCH.

LOEWDEG riain a'm hudai,
Hael Forfudd, merch fedydd Mai.
Honno a geiff ei hannerch,
Heinus wyf heno o'i serch;
Hauodd i'm bron, hon a hyllt,
Had o gariad, hud gorwyllt;
Heiniar cur hwn yw'r cerydd,
Hon ni ad im enwi dydd;
Hawdd y gwrendy gyhudded,
Nawdd arni, ni chaf ei ched;
Hudoles a duwies
Hud yw im hoew ei dameg.

Heddwch gyda'm bun hoew-ddysg,
Heddyw be'i cawn, dawn y dysg;
Herwr glân, heb alanas,
Heno wyf i'w phlwyf a'i phlas;
Hi a roes, er garwloes gwr,
Hiraeth dan fron ei herwr;
Hwy trig na'r môr ar y traeth,
Herwr Gwen yn ei hiraeth.
Hwyr y cawn, dan ei haur coeth,
Heddwch gan fy mun hoew-ddoeth.

Hualwyd fi, hoeliwyd f'ais,
Hual gofal a gefais;
Hwyr y daw draw'r byd a droes,
Hwyrach im gaffael hir-oes;
Hon o Wynedd a henyw,
Hebddi ni byddaf fi byw.