Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhagymadrodd.

AMRYW flynyddoedd yn ol, yn agos iawn i ugain, addewais roddi casgliad o waith Dafydd ab Gwilym i'r werin. Gohiriais o dro i dro, gan ddisgwyl egwyl i chwilio am y llawysgrifau hynaf. Yr wyf wedi hen anobeithio medru gwneyd hynny, ac y mae'r gwaith yn fwy o lawer nag y tybiais yn fy anwybodaeth ei fod.

Nis gwn ond am un sy'n fyw a fedd y cyfleusderau a'r medr i roddi i ni gywyddau Dafydd ab Gwilym mor agos ag y gellir i'r fel y canodd y bardd hwy. Ers blynyddau y mae Dr. J. Gwenogfryn Evans yn casglu cywyddau Dafydd yn ol y llawysgrifau hynaf ar gael o bob un ohonynt. Pan ymddengys y casgliad hwn, ceir gwaith Dafydd ab Gwilym yn gyflawn am y tro cyntaf, ac mewn dull y gall hanesydd iaith yn ogystal a hanesydd llenyddiaeth ymddiried ynddo.

Y mae fy ngwaith i yn fwy distadl, er nad yn llai gwasanaethgar. Fy ngwaith i yw rhoddi casgliad bychan o gywyddau Dafydd ab Gwilym mewn dull y deallo y darllenydd eu rhediad, ac y delo i gymundeb â chariad athrylithgar at geinder tlysni. Codais hwy o wahanol ysgriflyfrau lle y ceir cywydd neu ddau i Dafydd yn dechreu casgliad o geinion wnaethai rhyw fardd iddo ei hun. Codwyd llawer, os nad y rhan

fwyaf, o wahanol ysgriflyfrau Lewis Morris, ac o argraffiad Owen Jones a William Owen yn 1789.[1] Er

  1. Cafodd y llyfryn yma o Gyfres y Fil ei gyhoeddi cyn i Griffith John Williams profi bod Iolo Morganwg wedi ffugio rhan o gorpws gwaith DapG. Mae o leiaf naw cerdd yn y casgliad hwn yn waith Iolo:—tt 31, 37, 50, 52, 69, 75, 97, 101 a 104. Mae nifer o gerddi eraill yn y llyfr sy ddim yn cael eu hystyried gan ysgolheigion bellach i fod yn rhai gan Dafydd ap Gwilym