Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y mae gwylanod y môr
A ddon', fil, i ddwyn f' elor ;
Llu o goed teg, llyg a'i twng,
Em hoew-bryd, a i'm hebrwng ;
A'r eglwys im o glos haf
Yn y fanallt, ddyn fwynaf;
A dwy ddelw da i addoli,
Dwy eos dail, dewis di.

Ac yno, wrth gae'r gwenith,
Allorau brics, a llawr brith;
A chôr, ni chau'r ddôr yn ddig,-.
O droddail nis medr eiddig,-
A brodyr a wyr brydiaith
Llwydion a wyr Lladin iaith,
O ran mydr o ramadeg
O lyfrau dail, lifrai deg ;
Ac organ gwych y gweirgae,
A sain clych mynych y mae;
Ag yno ym medw Gwynedd,
I mi ar bâr y mae'r bedd.

Tawaf tra tawyf tywyn gwmpas—haul,
Hael Forfudd gyweithas;
Ni wyr Duw i'th deuluwas
Awr draw ond wylaw gwlaw glas.