Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
YMBIL.[1]

Y MUN gain, hoyw em goeth,
Y cyfan wyd o'm cyfoeth;
Gorau meinir a garaf,
Gwymp yw'th wên fel heulwen haf.
Gwae o'm planed anedwydd
Weled erioed liw dy rudd.
Dy wyneb teg ei donnen,
Wyth-lug dydd, a'th lygaid, wen,
A fu saeth yn fy ais i
A 'ngwanas; gwae fy ngeni.
Dy wddwg, amlwg emliw,
Un herddyll wyd, hardd ei lliw,
A'm troes yn brudd i'm lludd llwyr,
Was anial, ac o'm synwyr.
Dy ddwyfron, lliw berw-don balch,
A'u canfod i'w pryd ceinfalch,
Mawr ganfod rhyfeddod fu
'Mun fadiain, i'm ynfydu.
A'th dâl, lliw manod baloedd,
'Y ngwen wyl, 'y ngwenwyn oedd.

Segr o ddyn, siwgraidd enau,
Sant fy ffydd, cain Forfudd fau,
Byrroes, a'm serch yn berwi,
'Y mun, a beraist i mi.
Na ladd dy fardd, na chwardd chwaith
Am ei gur, em gywiriaith.
A thyn y gwas a'th annerch
A golwg hedd o fedd, ferch.
Pâr wared o'm caledi
Ag un gair, er Mair, i mi.


  1. Gwaith Iolo Morganwg, gw: Dafydd ap Gwilym net Cerddi'r Apocryffa Rhif A193