Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
Y DYWEDDIO.

I FORFUDD PAN YMGREDODD A'R BARDD

CRED, o Luned oleuni,
A roes da ei moes imi;
Ys gwae-dwng yw os gwedir,
Ys gwyn fy myd yw, os gwir;
Sel, a Duw a'i hinseiliawdd
Yn grair, o'i neddair a'i nawdd.

Finnau fy nghred i f'anwyl
A rois, i'r fun gwiw-lun gwŷl,
Yn llw hydr, mewn lle hydraul,
Yn ei llaw hi, unlliw haul,
Fel y rhoed im o rym rhydd
Yn y dwfr enw Dafydd.
Gyrddwaew o serch, iawnserch ior,
Ar garu hoen eira goror ;
A doniog fu'r grediniaeth,
Da y gwn, a Duw a'i gwnaeth.
Da gwnaeth bun, â llun ei llaw,
Rhoi dyrnaid a rhad arnaw,
Rheidlw perffeith-deg rhadlawn,
Rhinwedd y wirionedd iawn ;
Llw i Dduw o'i llaw ddeau,
Llyna od, gwn, llw nid gau;
Llawendwf yn llaw Indeg,
Llw da ar hyd ei llaw deg;

Llyfr cariad, myfì a'i cadwaf,
Yn ben rhaith erbyn yr haf;
Yn yr oerddwr yr urddwyd
Y llw a roes Morfudd llwyd.