Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
TRASERCH Y BARDD.[1]

PRYDYDD i Forfudd, f'eurferch,
I'm oes wyf, a mawr yw'm serch;
Mi a'i cerais, i'm cerydd,
Hoew-deg loer, ers lawer dydd.

Addoli mun dan ddail Mai,
A dirfaint cariad erfai;
Adwaenwn, gwn yn gynnil,
Ei throedlam brisg ymysg mil;
Un yw a dyngwn eî nod,
Wych osgedd, wrth ei chysgod;
A'i hadnabod, ddirfod ddadl,
Hoew eneth, wrth ei hanadl,
Cerdd eos a'm danghosai
'Y mun bert, y man y bai,
Gan hoewed, gloewed, mewn glyn,
O'i dorri caid'r aderyn.

Un ydwyf, ban bwyf heb wen,
Afrywiog, heb fawr awen,
Ag oernych tost i'm gornwyf,
O flaen neb aflawen wyf,
Heb gof, heb ynnof enaid,
Na rhith o'r synwyr fo rhaid.

Gyda gwen, wy'n ddi-bennyd,
Gwna hon fi'n galon i gyd,
A'm cân yn rhedeg i'm cof
Yn winaidd awen ynnof;
A synwyr llwyr ar bob llaw,
Ebrwyddiaith, i'm llwybreiddiaw,
Ac ní ddaw im awr lawen
I'm bywyd, mewn byd heb wen.


  1. Gwaith Iolo Morganwg, gw: Dafydd ap Gwilym net Cerddi'r Apocryffa Rhif A129