Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
Y LLEUAD.

DGIO'R wyf am liw'r ewyn,
Duw a ŵyr feddwl pob dyn.
Rhy bell yw i'm ddirprwyaw
Llatai drud, i'w llety draw ;
Na dwyn o'm blaen dân-lestri,
Na physt cŵyr, pan fo hwyr hi.

Canhwyllau'r Gŵr biau'r byd
A'm hebrwng at em hoew-bryd;
Bendith tlawd i'r Creawd-ner
A wnaeth saerniaeth y ser.
Ni liwiodd dim oleuach
Na'r seren gron burwen bach;
Canwyll yr uchel Geli,
Euro maes, sydd orau i mi,
Ni ddiflan y lân ganwyll,
A'i dwyn nis gellir o dwyll;
Nis diffydd gwynt hynt Hydref
Afrlladen o nen y nef;
Nis bawdd dyfr llyfr llifeiriant,
Disgwyl-wraig desgl saig y saint;
Ni ddeil lleidr â'i ddwylaw
Gwaelawd cawg y Drindawd draw;
Nid gwiw i ddyn o'i gyfair
Ymlid maen mererid Mair;
Gwir fwcled y goleuni,
Gwalabr haul, gloew-lwybr yw hi;
Goleuad ym mhob ardal,
Goldyn o aur melyn mâl;
Hi a ddengys im, heb gudd,
Em eurfalch, lle mae Morfudd.