Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/6

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cymaint fu gwasanaeth y gwŷr ardderchog hyn, dewisais gopiau ereill hŷn, lle y gallwn, yn hytrach na'u copiau hwy. Trwsiasant ormod; i'r efrydydd, eu copiau hwy yw y mwyaf diwerth.

Ni raid i mi ddweyd nad yw yr oll o waith Dafydd ab Gwilym yn y gyfrol hon. Yr wyf yn amheus ynghylch awduriaeth amryw gywyddau briodolir i Ddafydd yn argraffiad 1789. Mewn un llawysgrif priodolir i Gruffydd Llwyd ab D ab Einion y cywydd i ddiolch i wŷr Morgannwg am dalu dirwy'r Bwa Bach; mewn un arall priodolir i Robin Ddu y

"Saith gywydd i Forfudd fain,
Seth hoew-gorff, a saith ugain."


Gadewais aml gwpled, nad oeddwn yn sicr ohonynt, allan; dewisais y dull byrraf fel rheol; ni roddais ond darn o ambell gywydd. Ni newidiais ddim ond "y" ac "yn" yn "ei" ac "ein," a "glaw" yn "gwlaw." O'm hanfodd y gwnawn hynny; ond os creithiau ar yr iaith yw y rhai hyn, danghosant ol dwylaw cymhwynasgar William Salesbury a Dr. W. Owen Pughe. Cyfleais y cywyddau i ddangos hanes Dafydd,—yr ymhyfrydu yn nhlysni natur a merch, ymgartrefu gydag Ifor Hael, caru Morfudd, y briodas yn y llwyn, colli ac ail ennill a cholli Morfudd, canu i Gruffydd Grug, prudd-der cysgodau'r hwyr.

Os teimla ambell un cyfarwydd mai bwngler ydwyf, cofied fy esgus,—y mae pobl ieuainc Cymru yn dechreu yr ugeinfed ganrif heb argraffìad o waith eu prif fardd yn eu cyrraedd.

Yn hanner olaf y bymthegfed ganrif, rhwng Llywelyn ac Owen Glyndŵr, y bu Dafydd ab Gwilym byw. Yr oedd bywyd Lloegr a'i masnach a'i moethau yn llawn dylanwad ar Gymru. Yr oedd yr urddau