Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
YR EOS A'R FRAN.

MAWL I'R EOS, A DUCHAN I'R FRAN
AM EI GWYLLTIO, PAN OEDD Y BARDD YN
Y LLWYN YN DISGWYL MORFUDD.

GWAE fi o gariad gwiw-fun,
Nad ytwyf yn Nghoed Eytun;
Lles nifer, ger llys nefawl,
Lle y mae galluau mawl.
Ysgyndwr maen ar gaen galch,
Ysgynfa eos geinfalch.
Ysgwyr hi, hydr yw'n gormail,
Ysgawn daith dan ysgin dail.
Main y cân prif acen prudd,
Men a threbl mwyn ei thrabludd;
Egwyddor gain firein-fyw
O gôr dail i gariad yw;
Cathl wynfyd coeth lawen-ferch
Canghen-ddring cain sawdring serch.
Prid yw ei chof gan ofydd,
Prydyddes, gwehyddes gwŷdd ;
Llon fydd yn nydd ac yn nos,
Llef ddiledlef, dda loew-dlos.

Fal yr oeddwn heb ormail,
Cwpl da, o fewn capel dail,
Yn gwrandaw rhif yn ddifreg
Offeren dan ddeilen deg,
Gan laswyr-wraig y cariad,
Ganiadau mydr-leisiau mad,
Gan eos gain ddiddos gu,
Hab y dolydd heb dalu,
Difir mewn doldir ein dau,
Mewn llwyn-gwyrdd a meillion-gae,
Nycha'r frân anwych ar frig,