Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Lafar, ysgyflgar, goflgig,
Yn dwyn rhuthr dan dinrhythu
I blas yr edn geinlas gu.

Daeth y fran o ryw daith fry
Amharod gerdd o'i mharu
Glew dri phwnc, nid gloyw drafferth,—
'Glaw! Glaw!' meddai'r baw o'r berth.

Llesteiriodd brif ddigrifwch,
Llaes ei phlu, a'i lleisiau fflwch;
Sef gwnaeth, deuluwriaeth dail,
Gan eos fyr ar wiail
Tristhau draw, a distawu,
Gan bres yr Iddewes ddu.
Daeth, ni bu annoeth ynnof,
Duw a'i gŵyr nad a o gof
Dychymyg bonheddig bwyll,
Rhag irdang bum ragor-dwyll;
Ffull goluddion, heb dồn deg,
Ffollach wegil-grach gulgreg.

"Edn eiddig, wyd anaddwyn,
Adref ! drwg ei llef, o'r llwyn;
Cerdda at eiddig, dy gâr,
Cyfliw mwsgl, cofi ymysgar;
Euryches yr oer ochain,
Blowman du a'i blu mewn drain."

Cefais gan lathr-las asgell,
Loew-swydd wiw, leisiau oedd well.