Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
MAI A IONAWR.

I GANMOL MIS MAI, AC I OGANU IONAWR.

HAWDDAMOR, glwysgor glasgoed,
Mis Mai haf, canys mae hoed
Cadair farchog serchog fal
Cadwyn-wyrdd feistr coed anial;
Cyfaill cariad ac adar,
Cof y serchogion a'i câr;
Cennad naw ugain cynadl,
Caredig urddedig ddadl;
Mawr a fydd, myn Mair, ei fod,
Mis Mai difai, yn dyfod;
A'i fryd arddel frawd urddas,
Yn goresgyn pob glyn glas;
Gwisgiad praff, gwasgod priffyrdd,
Gwisgai bob lle a'i we wyrdd.

Pan ddêl yn ol rhyfel rhew
Pill doldir y pall deildew,
Gleision fydd, Mai grefydd grill,
Llwybrau obry lle bu'r Ebrill,
A daw, ar ucha blaen dâr,
Caniadau cywion adar,
A chôg ar fan pob rhandir,
A chethlydd a haf-ddydd hir;
A bron-loew hoew brynhawn,
A glaswydd aml eglwyswawn;
Ac adar aml ar goedydd,
Ac irddail ar wiail wŷdd ;
A chof am Forfudd, f'eurferch,
A chyffro saith nawtro serch.
Anhebyg i'r mis dig du,
A gerydd i bawb garu,