Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
EDLIW[1]

Y FUN dawel wallt-felen,
Eurwyd y baich ar dy ben;
Gwyn yw dy gorff ac uniawn,
A lluniaidd ddyn, llyna ddawn;
Cyd bych, lanwych oleuni,
Deg a mwyn, er dig i mi;
Gwneuthur brad yn anad neb,
Em y dynion, mae d' wyneb.
Duw a lifodd dy lofyn,
Dy wallt aur, i dwyllo dyn;
Dyrchu ael fain, d'orchwyl fu
Dristhau gwŷr, dros dy garu.

Fy nwyais, ni henwais hyn,
A guriodd o'th liw gorwyn;
Aeth dy wedd, Gwynedd a'i gwyr,
A'm hoes innau, a'm synwyr.
Os dy eiriau ystyriaf,
Gruddiau gwin, gorwedd a gaf;
Gwell bedd, a gorwedd gwirion,
Na byw'n hir yn y boen hon;
Gwae fi, gwn boeni beunydd
Weled erioed liw dy rudd;
Gweniaeth brydferth, a chwerthin,
Erioed a fu ar dy fin;
Un drwg, fel ewyn ar draeth,
Llai a dâi lliw hudoliaeth;
Gelynes mau, afles maith,
Wyt imi od aet ymaith;
Y maith na ddos o'm hanfodd,
Byth nid aet ymaith o'm bodd.


  1. Amheuaeth gryf mae nid gwaith DapG ydyw, gw: Dafydd ap Gwilym net Cerddi'r Apocryffa Rhif A161