Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
CHWEDL Y GOG[1]

A MI yng ngoror gor-allt,
Yn aros oed dan goed gallt,
Y bore Mai ar bawr maes,
A glanfodd ar lawr glynfaes,
Ag eginaw teg weunydd,
A gerllaw'n blaguraw gwŷdd,
Minnau i'm ton yn son serch
I Forfudd,-llyna f'eurferch,—
Bwrw golwg lem ar drem draw,
Am Wen, a'i mawr unaw,
Golwg o lwybr bwygilydd,
A 'mun gain ni chawn mewn gwydd,
Nycha clywn gog liosog-lais,
Yn geiriaw cân a gerais,
Gwiw-ddestl, i fardd y gwŷdd-allt,
Ei llafar ar war yr allt.

"Dydd da fo i'r gog serchog-lef,
Aderyn wyd o dir nef,
Yn dwyn newyddion yn deg,
A nodau haf, iawn adeg,
A haf yn hudaw hoew-fun
I goed, a bardd gyda bun.
Hoff gennyf dy gân landeg,
Yn gân i serch fel gwin seg;
A thraserch i'th iaith rwysog,
Yn minio gwawd, fy mwyn gôg.
Dywed i'th gân heb dewi,
A mwyn wyd, ple mae 'mun i."

"Y prydydd, pa ryw adwyth
Sydd arnat ti eleni'n lwyth?
Ni thâl porthi gofalon,
Bun iach, ymhellach am hon.

  1. Gwaith Iolo Morganwg, gw: Dafydd ap Gwilym net Cerddi'r Apocryffa Rhif A9