Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
MORFUDD A'R BWA BACH.

DODES Duw, da o dyst wyf,
Deubleth i hudo deublwyf,
O radau serch, aur ydyn,
Aerwyau teg ar iad dyn;
Eurdyrch a chynnyrch anwyl
O ffrwyth goleu iad lwyth gŵyl;
Llwyth gŵr llowaeth o gariad,
Llathr aur goruwch llethr iad;
Llwyn o gwyr difeiwyr faeth,
Llwyn eurlliw, llyna iarllaeth;
Llonnaid teg o fewn llinyn,
Llaes dwf, yn lliasu dyn;
Llin merch, oreuferch rasawl,
Llwyn aur, mal llinynau'r mawl.
Balch y dwg ddyn ddi-wg fain
Banadi ysgub, bun dlos-gain,
Yn grwn walc, yn goron wiw,
Gwyl-dlos blethedig old-liw.

Caniad rhag Cynfrig Cynin,
Fab y pengrych fawr frych flin;
Llwdn anghenfil gwegil-grach,
Llwm yw ei iad lle mae iach;
Eiddig gyw sarrug go sur,
Lledpen chwisigen segur;
Penglog o'r fedrog fudrach
Ni bu ar ben cwch gwenyn bach.
Anhebig, eiddig addef,
Fulwyllt oedd ei foel-wallt ef.

Llariaidd ddi-feth y plethwyd
Y llwyn ar ben Morfudd llwyd.