Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eglwys y canoloesoedd wedi colli ei dylanwad, mae dydd Wycliff a Walter Brute yn ymyl. Mae natur ddynol iach wedi gwrthryfela yn erbyn mynachaeth a gorthrwm llys eglwysig.

Faint fu ei ddylanwad ar Gymru? Tystied gwaith beirdd pob oes yn ysgrifennu ei gywyddau fel eu trysorau pennaf. Ac oni ddylai ei gywyddau fod yn rhan o feddwl pob un y mae tlysni gwaith Duw yn hyfryd iddo?

OWEN M. EDWARDS.

Llanuwchllyn, Awst 21ain, 1901.