Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Myn y Gŵr a fedd, heddyw
Mae gwaew i'm pen am wen wiw,
Ac i'm tal mae gofal-glwyf,
Am aur o ddyn marw ydd wyf.
Ni chaf ochlyd hefyd hawl,
Gan daered y gŵr durawl,
Rhaid rhoi draw, o daw, o dâl
Groesaw i ddeuliw'r grisial;
Llenwi mewn gwyndy llawen
Siwgr ar win i ddyn segr wen.
Os heibio rho, glo y gler,
Gwas gwech-don, gwisgo gwychder,
Ni fyn Morfudd, ddeurudd dda,
Aelod main, weled mo'na'.
Ni thâl dy gyngor am forwyn
Garrai i mi, y gŵr mwyn.
- CYNGOR BRAWD CREFYDD[1]
GOSBWR y marwol bechawd,
Casbeth gennyf bregeth brawd.
Pobty y bara peinioel,
Pibl weddi, almari moel;
Gosgedd gryglus, gweddus gwiw,
Gwas baglog mewn gwisg bygliw;
Llwgr o bys y llygod,
Mair a glyw, nid mawr ei glod.
I bob dyn, dan ei ateb,
Y rhydd nawdd mwy na rhodd neb.